Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt wedi gwadu beio’r Blaid Lafur am dranc S4C, gan ddweud na wnaeth y blaid unrhyw beth i helpu’r sianel pan oedden nhw mewn grym.

Wrth ateb cwestiynau gan yr Aelodau Seneddol Llafur Chris Bryant ac Ian Lucas yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, dywedodd Jeremy Hunt nad ef oedd yn gyfrifol am y “cawlach yng Nghymru”.

Dywedodd Chris Bryant, AS y Rhondda, fod yna “lot o ddicter yng Nghymru ynglŷn â’r modd y mae’r Gweinidog a’i adran wedi trin ein cyfryngau lleol”.

“Mae’n debyg na fydd ITV Cymru yn gallu cynnal ei wasanaeth cyhoeddus, ac mae S4C wedi ei drin yn arswydus.

“Does yna ddim trafod wedi bod gyda phobol Cymru. Fe fydd gan un darlledwr fonopoli yng Nghymru, ac mae’r Gweinidog wedi gwneud cam mawr â phobol Cymru yn y modd y mae o wedi o’i chwmpas hi.”

Ymatebodd Jeremy Hunt gan ddweud “nad yw’r llanast yn darlledu lleol Cymru wedi ei greu gan y Llywodraeth yma”.

“Hanerodd nifer gwylwyr S4C dros y degawd diwethaf dan oruchwyliaeth plaid y gŵr anrhydeddus, ac ni wnaethon nhw ddim byw am y peth.

“Rydym ni wedi ceisio sicrhau dyfodol diogel i S4C a fydd yn cynnal ei hunaniaeth annibynnol ond a fydd hefyd yn golygu fod ganddo gefnogaeth ein darlledwr mwyaf.

“Rydym ni wedi gwneud rhywbeth am y broblem – wnaeth plaid y gŵr anrhydeddus ddim byd o gwbl.”

‘Anwybyddu’

Dywedodd Ian Lucas, Aelod Seneddol Wrecsam, bod Jeremy Hunt wedi “anwybyddu barn pob un o arweinwyr y pleidiau yng Nghymru ar S4C, gan gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru”.

“Onid yw’r modd y mae o’n anwybyddu cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru yn gwbl warthus?

“A fydd o’n dechrau siarad gyda phobol ynglŷn â rhywbeth sy’n fater o bwys yng Nghymru, ynteu dydi o ddim yn deall?”

Dywedodd Jeremy Hunt ei fod o wedi “siarad gyda nifer o gynrychiolwyr etholedig, ond yn benodol cynrychiolwyr etholedig o’r tŷ yma, ynglŷn â’r modd orau i fwrw ymlaen gyda S4C.”

“Rydym ni wedi cynnig datrysiad sy’n sicrhau dyfodol S4C drwy gydol cyfnod yr adolygiad gwario cynhwysfawr.

“Os oes gan y gŵr anrhydeddus ateb gwell, efallai y dylai gynnig rywbeth, am nad ydym ni wed clywed dim byd gan y Blaid Lafur.”

Arweinyddiaeth S4C

Ymatebodd hefyd i gwestiwn gan Alun Cairns, Aelod Seneddol Bro Morgannwg, a holodd ynglŷn â’r dryswch am arweinyddiaeth Awdurdod S4C.

“Allai’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau nad oes yna unrhyw newid yng nghadeiryddiaeth S4C? Ydy o’n cydnabod y gofid y mae rhai o aelodau Awdurdod S4C yn ei achosi i’r staff, ac a allai gadarnhau bod y Llywodraeth yn ymroddedig i S4C sydd yn annibynnol yn olygyddol ac yn weithredol?”

Dywedodd Jeremy Hunt y gallai “gadarnhau bod y Llywodraeth yn cefnogi S4C sydd gyda’i hunaniaeth amlwg ei hun, annibyniaeth weithredol a chefnogaeth ein darlledwr cenedlaethol mwyaf a phwysicaf”.

“Rydw i’n annog aelodau’r awdurdod i ddatrys y dryswch ynglŷn ag arweinyddiaeth S4C cyn gynted a bo modd, am nad ydi pobol Cymru yn haeddu dim llai.”