Mae John Walter Jones wedi dweud wrth staff S4C ei fod yn aros yn swydd Cadeirydd yr Awdurdod tan y gwanwyn – os na fydd yr Ysgrifennydd Treftadaeth yn gofyn iddo fynd cyn hynny.
Mae dryswch wedi bod ers dyddiau ar ôl i weddill aelodau’r Awdurdod ddweud ei fod wedi ymddiswyddo, ac yntau’n gwadu hynny.
Roedd y lleill hyd yn oed wedi penodi Rheon Tomos yn Is-Gadeirydd i gymryd cyfrifoldebau’r Cadeirydd dros dro.
Fe ofynnodd John Walter Jones am gynnal cyfarfod er mwyn iddo annerch y staff ac mae Golwg 360 yn deall bod hwnnw wedi ei drefnu yn hwyr y prynhawn yma.
Ar hyn o bryd, mae John Walter Jones, yn ystyried ymddeol tua mis Mawrth pan fydd yn 65 oed er nad yw’r union ddyddiad wedi’i bennu.
Yn ôl llefarydd ar ran y sianel, fe fydd cyfarfod o’r Awdurdod “o fewn y dyddiau nesa’”. Mae hwnnw’n debyg o fod yn un stormus.
Datganiad John Walter Jones i staff S4C
“Diolch i chi fel staff am fod mor deyrngar ac amyneddgar mewn amser sydd mor anodd i chi.
“Dwi eisiau ymddiheuro am fod sefyllfa o’n i yn ei hystyried yn un gwbl bersonol i fi a’r wraig wedi dod yn destun trafod i’r genedl ac o’r herwydd wedi bod yn glec arall i S4C.
“Mi fydda i yn 65 ddiwedd Mawrth flwyddyn nesa’ a fy mwriad oedd cael ymddeol o fod yn Gadeirydd S4C bryd hynny.
“Fe ges i a’r Ysgrifennydd Gwladol sgwrs ac roedd o’n deall fy mhenderfyniad. Wnaeth o a fi ddim cytuno pryd y byddwn yn gwneud fy mhenderfyniad yn gyhoeddus. Yn sicr, doeddwn i ddim am i’m penderfyniad ddod yn bwnc trafod, na dylanwadu ar y broses oedd ar waith o ran penodi Prif Weithredwr, felly ddydd Gwener diwethaf wedi amser cau ceisiadau oedd yr amser o’n i wedi bod yn meddwl amdano. Ond ches i ddim cyfle. Fe gamddehonglwyd cynnwys llythyr personol i mi gan Jeremy Hunt, ac fe drawyd S4C unwaith eto gan swnami.
“Dw i wedi ei wneud yn glir i’r DCMS, ac fe ategaf hyn pan fydda i yn siarad efo’r Gweinidog, mod i’n berffaith fodlon sefyll o’r neilltu nawr os ydi o o’r farn y byddai hynny yn hwyluso unrhyw benderfyniad ganddo fo ynglŷn â dyfodol S4C.
“Dyfodol darlledu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ydy fy unig gonsyrn. Tydw i fel unigolyn yn neb yn hynny o beth – ond mae cyfraniad pawb ohonom gyda’n gilydd yn aruthrol bwysig. A chredwch fi, dwi’n llwyr ymwybodol o’r effaith y mae popeth sydd wedi digwydd yn ei gael arnoch chi a’ch ymroddiad, a’r gofid mae o yn ei greu. Felly ymddiheuriadau am fod y personol wedi cael mwy o sylw gan rai na’r perthnasol. Gobeithio bod hyn yn gwneud pethau’n gliriach.”