Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r newydd fod tair ysgol bentref yn Sir Gaerfyrddin wedi cael cyfle arall.

Ond maen nhw’n dal i feirniadu’r Cyngor am roi pwyslais ar niferoedd disgyblion yn hytrach nag ystyriaethau eraill tros ddyfodol ysgolion Llangain, Bancffosfelen a Llanedi.

Mae’r Cyngor wedi herio rhieni’r tair ardal i geisio cynyddu nifer y disgyblion yno gan berswadio rhai i beidio ag anfon eu plant o’r ardal i ysgolion mawr yng Nghaerfyrddin.

Galw am weithio gyda’r cymunedau

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi herio’r Cyngor Sir i weithio gyda’r cymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu’r ysgolion gyda’r niferoedd presennol.

Y bore yma fe benderfynodd Bwrdd Gweithredol y sir y bydden nhw’n symud y tair ysgol o’r rhestr gau i gategori arall sy’n rhoi cyfle i rieni recriwtio.

Yn ôl arweinydd y Cyngor, Meryl Gravell, roedd dyfodol yr ysgolion yn awr yn nwylo’r rhieni – os oedden nhw’n gallu codi’r rhifau fe fyddai’r ysgolion yn parhau; os nad oedden nhw fyddai dim modd eu cynnal.

‘Dewrder’

Ond yn ôl Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y sir a rhiant ym Mancffosfelen, mae’r newid meddwl yn ddigon i galonogi ymgyrchwyr eraill.

“Mae’r ysgolion a’u cymunedau wedi dangos dewrder mawr yn ymladd dros eu dyfodol ac mae’r ffaith fod y Cyngor wedi cydnabod hyn yn dangos pwysigrwydd herio pwysau’r Cyngor a brwydro dros ein cymunedau Cymraeg,” meddai.

Llun: Neuadd y Sir Caerfyrddin (Rhys Huw – Yrwydded GNU)