Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi galw ar yr undebau llafur i beidio â streicio wrth i’w lywodraeth geisio diogelu swyddi yn y sector gyhoeddus.
Dywedodd wrth gynhadledd arbennig drefnwyd gan undeb y TUC er mwyn trafod y toriadau gwario mai diswyddiadau gwirfoddol fyddai’r dewis olaf.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyllideb drafft oedd yn cynnwys toriadau o £860 miliwn.
“Heddiw rydw i’n gofyn am eich cefnogaeth chi wrth i ni wynebu ein her fwyaf i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru,” meddai.
“Yng Nghymru rydym ni’n wynebu ein her fwyaf ers datganoli.”
Cyfeiriodd ar gynghorau Castell Nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, sydd eisoes wedi dechrau ar y gwaith o newid telerau gwaith y staff.
Roedd undeb GMB wedi honni fis diwethaf bod gweithwyr cyngor Rhondda Cynon Taf yn wynebu colli eu swyddi os nad oedden nhw’n derbyn cytundebau newydd.
“Wrth drafod telerau gwaith fe ddylen ni roi blaenoriaeth i barch a chyfathrebu didwyll, yn hytrach nag bygwth torri swyddi er mwyn newid telerau gwaith,” meddai Carwyn Jones.
‘Gwanhau’r ergyd’
“Rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu yn Llywodraeth Cymru er mwyn amddiffyn swyddi a gwasanaethau hanfodol,” meddai wedyn.
“Yng Nghymru mae cyflogwyr ac undebau yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn dod i gytundebau.
“Mae yna bryder anochel ymysg staff ynglŷn â cholli swyddi a phwysau ariannol. Rydw i’n cydnabod fod yna ansicrwydd a pha mor anodd yw hi. Mae angen i ni fod mor eglur â phosib.
“Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i wanhau’r ergyd. Rhaid i ni ddangos bod datganoli yn gallu gwneud gwahaniaeth.
“Ac fe fyddwn ni’n dangos bod yna ffordd well o wneud pethau yng Nghymru hyd yn oed mewn hinsawdd economaidd ble mae’n rhaid gwneud toriadau.”