Mae mellten wedi lladd saith person mewn ardal anghysbell yn Ne Affrica.

Roedd y bobol yn cynnal cyfarfod diwedd y flwyddyn ar gyfer meithrinfeydd, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

Dywedodd Bonginkosi Meshack Radebe, y gweinidog lles rhanbarthol, bod plentyn pedair oed ymysg y rheini fu farw dydd Gwener.

Roedd y gweddill yn cynnwys prifathro’r feithrinfa, ac athrawon oedd wedi ymgasglu yno ar gyfer y cyfarfod.

Cafodd 40 person arall eu hanafu, meddai Bonginkosi Meshack Radebe. Dywedodd ei fod o ar y ffordd i ble darodd y fellten, sef neuadd gymunedol yn rhanbarth KwaZulu-Natal.

Fe fydd ei adran yn talu am yr angladdau ac yn darparu unrhyw gymorth arall, meddai.