Roedd yna siom fawr i Abertawe wrth iddyn nhw golli’r cyfle i fynd yn gyfartal gyda Chaerdydd yn y Bencampwriaeth.
Yn ôl y rheolwr, Brendan Rodgers, roedden nhw wedi methu â manteisio ar ddechrau ardderchog a gadael i’r gêm lithro trwy’u dwylo.
Roedd yr Elyrch wedi mynd ar y blaen ar ôl dim ond dau funud gyda’i gôl gynta’ y tymor hwn ac, am hanner awr, roedden nhw ar eu gorau.
Ond fe gripiodd Portsmouth eu ffordd i mewn i’r gêm, gyda gôl yn union gyn yr egwyl ac un arall yn yr ail hanner wrth i ddyn nhw reoli’r chwarae.
Dyma’r ail dro mewn tair gêm i Abertawe golli yn Stadiwm y Liberty.
Llun: Brendan Rodgers