Roedd yna fuddugoliaeth annisgwyl i’r Dreigiau wrth iddyn nhw guro arweinwyr Cynghrair y Magners.

Eu perfformiad yn yr hanner cynta’ a osododd y seiliau, gyda’r Cymry ar y blaen o 17-3.

Yn ôl eu hyfforddwr, Paul Turner, roedden nhw wedi chwarae mwy fel Munster na Munster, trwy ennill yr ornest pan oedd symudiadau’n cael eu hatal.

Er eu bod wedi pwyso yn yr 20 munud cynta’, doedd yna ddim sgôr i’r Dreigiau ond, gyda Munster ar un adeg i lawr i 13 dyn oherwydd cardiau melyn, fe ddaeth dau gais yn yr ail chwarter.

Faletau yn tanio

Yr wythwr, Toby Faletau, oedd wedi tanio pethau gyda rhediadau cry’ yn creu cyfle i’r olwyr, i ddechrau, basio’r bêl ar hyd y llinell i’r asgellwr Tom Riley ac yna’n creu sgarmes ger y llinell i roi cyfle i’r blaenasgellwr, Gavin Thomas.

Er bod Munster wedi pwyso’n galed yn y trydydd chwarter, dim ond un gic gosb gawson nhw ac fe gafodd honno ei hateb ar ôl 68 munud gan gic gosb gan Jason Tovey.

Roedd Munster ar linell y Dreigiau yn y munudau ola’ ond fe lwyddodd y Cymry i ddal eu tir.

Llun: Toby Faletau