Fe fydd yr arweinydd Llafur newydd yn dechrau ar broses o newid y blaid a’i pholisïau heddiw.
Fe fydd Ed Miliband yn annerch Fforwm Polisi Cenedlaethol y blaid ac yn cyhoeddi ei fod yn ffurfio nifer o grwpiau polisi o dan arweiniad aelodau o’i gabinet.
“Rhaid i ni fynd allan a dod i ddeall eto ble mae pobol,” meddai. “Rhaid i ni gael plaid sy’n cael ei diwygio ac sydd o ddifri’ yn edrych am allan.”
Roedd y Llywodraeth Lafur wedi bod yn llywodraeth dda ar y cyfan, meddai, ond roedden nhw wedi colli cysylltiad ar rai pynciau – anhawster economaidd rhai pobol a chanlyniadau mewnfudo, er enghraifft.
Fe fydd y grwpiau polisi yn canolbwyntio ar yr economi a gwasanaethau cyhoeddus ac yn ôl Ed Miliband, mae eisiau cael “miliwn o sgyrsiau” gyda phobol.
Llun: Ed Miliband (CCA 2.0)