Mae gyrwyr Trenau Arriva Cymru wedi canslo streic oedd yn bygwth achosi cur pen i gefnogwyr Cymru nos Wener.
Roedd pryderon na fyddai yna ddigon o drenau i gario cefnogwyr i mewn ac allan o Gaerdydd ar gyfer y gêm yn erbyn Fiji ar ôl i yrwyr y cwmni trenau gyhoeddi streic.
Ond heddiw penderfynodd undeb y gyrwyr, Aslef, na fydden nhw’n streicio ar ôl cael cynnig gwell gan y cwmni.
Dywedodd Aslef y bydden nhw’n cyfarfod eto dydd Llun er mwyn penderfynu a fydden nhw’n canslo dwy streic arall ddydd Mawrth a dydd Mercher.
Roedd Trenau Arriva Cymru eisoes wedi rhybuddio pobol i wneud cynlluniau eraill dydd Gwener os oedden nhw’n bwriadu teithio gyda nhw.