Mae gyrwyr trenau sy’n gweithio i Arriva Trains Wales wedi pleidleisio o blaid cynnal streic yn hwyrach yn y mis oherwydd ffrae dros gyflogau.
Dywedodd undeb Aslef y bydd 470 aelod yn mynd ar streic ar 19, 26 a 27 Tachwedd, ac y bydden nhw’n cyhoeddi dyddiadau eraill maes o law.
Roedd aelodau Aslef wedi pleidleisio 9-1 o blaid streicio.
Mae Undeb RMT hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw am gynnal pleidlais er mwyn penderfynu a fydd eu gyrwyr yn streicio ai peidio.
‘Cosb am weithio yng Nghymru’
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Aslef, Keith Norman ei fod o wedi ysgrifennu llythyr at Arriva Trains Wales nad oedden nhw wedi cynnig cyflog boddhaol i’w haelodau.
“Mae ein haelodau yn Arriva Trains Wales wedi gweld eu cyflogau yn disgyn tu ôl i yrwyr trenau gweddill y diwydiant,” meddai.
“Mae’n annheg eu cosbi nhw am weithio yng Nghymru.”
Mae yna gyfarfodydd pellach wedi eu trefnu rhwng yr undeb a’r cwmni trenau, ond rhybuddiodd Keith Norman bod y bleidlais yn dangos bod aelodau Aslef yn barod i weithredu.