Mae penaethiaid Heddlu’r Met dan bwysau i gwblhau ymchwiliad i amgylchiadau protest y myfyrwyr yn Llundain ddydd Mercher.

Maen nhw eisiau gwybod pam na wnaeth uwch swyddogion yr Heddlu ragweld y gallai’r brotest droi’n dreisgar.

Cafodd bron i 40 o swyddogion eu hanafu a 50 o bobol eu harestio wrth i brotestwyr eithafol feddiannu 30 Millibank yng nghanol Llundain gan dorri ffenestri, cynnau tân a thaflu taflegrau a diffoddwr tân o’r to.

Daeth i’r amlwg heddiw bod un o’r plismyn fodfeddi i ffwrdd o gael ei daro gan un o’r diffoddwyr tân – a allai fod wedi ei ladd.

Dim ond 225 o swyddogion yr heddlu oedd wedi eu gyrru i’r brotest, ond roedd rhaid dyblu’r niferoedd hynny wrth i’r brotest droi’n dreisgar.

Mae comisiynydd Heddlu’r Met, Syr Paul Stephenson wedi penodi Simon Pountain, Cadlywydd o fewn yr heddlu, i gynnal “ymchwiliad mewnol cyflym iawn” i beth ddigwyddodd.

Ddoe, dywedodd y Gweinidog Heddlu, Nick Herbert ei fod o’n beio’r protestwyr treisgar, yn hytrach na’r heddlu, am y difrod.