Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am dros £100m er mwyn atal trychineb arall wrth i golera ledu drwy Haiti.

Mae’r afiechyd wedi hawlio 724 o fywydau’n barod, ac mae pryderon y gallai ladd hyd yn oed yn fwy wrth iddo gyrraedd yr ardaloedd gafodd eu heffeithio fwyaf gan y daeargryn ym mis Chwefror.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cenhedloedd Unedig y bydd pobol Haiti yn ddiamddiffyn yn erbyn yr haint os nad oes ganddyn nhw £102m ychwanegol i’w wario yno.

Mae gweithwyr iechyd yn Haiti yn pryderu y bydd colera yn lledu ymhellach yn nhrefi shanti a gwersylloedd y digartre’ yn y brifddinas.

Mae cannoedd yn dioddef o symptomau’r afiechyd – y geri – mewn ysbytai sydd wedi’u codi ar ymylon camlesi gwastraff yn Cite Soleil and Martissant.

Fe fyddai’r Cenhedloedd Unedig a mudiadau eraill yn defnyddio’r arian er mwyn cyflogi mwy o ddoctoriaid, prynu mwy o feddyginiaethau a thabledi puro dŵr.

Mae’r salwch wedi heintio o leiaf 11,125 o bobol hyd yma mewn 10 ardal wahanol yn Haiti.
Serch hynny dim ond 10 sydd wedi marw a 278 wedi eu heintio yn y brifddinas, Port-au-Prince, gafodd ei daro caletaf gan y daeargryn.