Mae dynes gafodd ei thrywanu gan gangen pan ddisgynnodd coeden ar ei char neithiwr wedi marw, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.
Aethpwyd a’r ddynes o Pontefract i’r ysbyty ar ôl i wyntoedd cryfion chwythu’r goeden i lawr ar ben ei char Vauxhall Zafira ar Aberford Road, Wakefield, meddai Heddlu Gorllewin Swydd Efrog.
Cafodd dyn oedd hefyd yn teithio yn y car ei anafu pan syrthiodd y goeden tua 8.30pm neithiwr. Dywedodd yr heddlu bod y ddynes yn deithiwr yn y car.
Roedd sawl tŷ yn yr ardal wedi eu gwagio dros nos oherwydd y storm ac fe fydd y ffordd – yr A642 rhwng Wakefield a Rothwell – ar gau nes yn hwyrach y prynhawn yma.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân ac achub bod y gangen wedi “mynd drwy” y ddynes.
Gwynt yng Nghymru
Roedd gwyntoedd cryfion yn chwythu ar draws Prydain neithiwr, gyda hyrddiadau o tua 70 milltir yr awr mewn sawl ardal.
Yn ardal Capel Curig yr oedd y gwyntoedd cryfa’ yng ngwledydd Prydain, gyda gwynt o 90 milltir yr awr yno ar un cyfnod.