Mae tri o blant wedi marw mewn tân mewn tref glan môr, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Humberside bod y plant mewn tŷ yn Clarence Avenue, Bridlington, Dwyrain Swydd Efrog.

Yn ôl llefarydd cafodd y gwasanaeth achub ei galw toc cyn 12am ac fe gafodd dynes 27 oed, mam y plant, ei hachub o’r tŷ.

Mae hi mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn Scarborough, yng Ngogledd Swydd Efrog.

Yn ôl llefarydd roedd hi’n rhy gynnar i ddweud beth achosodd y tân ond mae’n debyg ei fod o wedi dechrau y tu mewn i’r tŷ.

Roedd y tŷ teras tri llawr wedi ei gau gyda thap yr heddlu heddiw wrth i arbenigwyr fforensig ymchwilio i beth achosodd y tân.