Fe fydd gyrwyr Arriva Trains Wales yn pleidleisio er mwyn penderfynu a ydyn nhw am streicio dros dâl, cyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd yr undeb trafnidiaeth RMT nad oedd trafodaethau gyda’r cwmni dros dal yn llwyddiannus, ac nad oedd ganddyn nhw “unrhyw ddewis” ond ystyried streicio.
Mae’r undeb wedi argymell i’w haelodau eu bod nhw’n pleidleisio o blaid streic.
“Mae RMT wedi gwrthod cynnig dirmygus gan y cwmni a fyddai’n golygu bod ein haelodau ni yn cael llai o arian,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Bob Crow.
“Fe fyddai ein haelodau ni wedi gorfod goddef amodau gwaith israddol a thoriad cyflog.
“Mae Arriva Trains Wales wedi dangos nad ydyn nhw eisiau gwobrwyo gwaith caled a theyrngarwch eu gweithwyr, ac mae eu hunig gymhelliad ydi gwneud elw mawr ar gyfer eu cyfranddalwyr.
“Heb waith caled ein gweithwyr ni fyddai yna ddim elw ac mae’n hen bryd i Arriva Trains Wales sylweddoli hynny.
“Rydym ni’n galw ar ein haelodau i bleidleisio ‘Ie’ a gorfodi rheolwyr Arriva Trains Wales i gynnig codiad cyflog, a gwobrwyo eu staff fel y dylen nhw.”