Mae cyn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru wedi honni bod arweinydd y blaid wedi dweud wrtho ei fod o’n rhy hen i sefyll yn Etholiad y Cynulliad.
Honnodd John Dixon, 59, bod Ieuan Wyn Jones wedi dweud nad “oedden nhw’n gallu fforddio cael gormod o hen bobol yn sefyll”.
Gadawodd John Dixon ei swydd yn gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru ym mis Mehefin, tua’r adeg y mae’n honni y digwyddodd y drafodaeth.
Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar Ieuan Wyn Jones i gynnig esboniad ynglŷn â honiadau John Dixon.
Ymatebodd Plaid Cymru gan ddweud nad oedd yr un ymgeisydd erioed wedi cael gwybod na fydden nhw’n cael sefyll oherwydd eu hoed.
Cyfeiriodd y blaid at y ffaith bod sawl ymgeisydd yr un oed neu’n hŷn na John Dixon, gan gynnwys Ieuan Wyn Jones, sy’n 61 oed.
Ar ei flog dywedodd John Dixon bod pob un o’r pleidiau fel pe baen nhw’n pryderu gormod am oed eu hymgeiswyr.
“Mae yna dueddiad i bobol fynd yn syth o’r brifysgol i wleidyddiaeth, heb unrhyw brofiad arall o’r byd y tu allan, a dydw i erioed wedi bod yn siŵr bod hynny’n beth da,” meddai John Dixon.
“Pan ddywedodd Ieuan Wyn Jones wrtha’i ym mis Mehefin nad oedd o eisiau i mi fod yn ymgeisydd yn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai, roedd fy oed yn un o’r materion y cyfeiriodd ato.
“Yn ei farn o, doedd y blaid ddim yn gallu fforddio cael gormod o hen ddynion yn sefyll mewn seddi lle allai’r blaid ennill, rhag ofn bod hynny rhoi’r neges anghywir ynglŷn â pha fath o blaid yw Plaid Cymru.”