Mae cyn brif weinidog Israel, Ariel Sharon, wedi cael mynd adref o’r ysbyty ar ôl pedair blynedd mewn coma.
Dywedodd Dr Shlomo Noi o Ysbyty Tel Hashomer, y tu allan i Tel Aviv, bod Ariel Sharon wedi ei symud mewn ambiwlans i’r fferm ddefaid y mae ei deulu yn berchen arni yn ne Israel.
Mae Ariel Sharon yn arwr rhyfel i nifer yn y wlad ac yn un o wleidyddion mwyaf dadleuol Israel. Roedd yn Brif Weinidog rhwng 2001 a 2006.
Dioddefodd strôc yn gynnar yn 2006 ac roedd wedi ei gadw yn ysbyty Tel Hashomer hyd heddiw. Dyw ei gyflwr ddim wedi gwella, meddai Dr Shlomo Noi.
Roedd Ariel Sharon yn “ymateb rywfaint” ond doedd yna ddim awgrym y byddai’n deffro o’r coma, meddai.
“Tu hwnt i hynny, dim ond gobaith sydd,” meddai wrth Radio Israel.
Bydd gweithwyr meddygol yn edrych ar ôl Ariel Sharon yn ei gartref. Mae disgwyl y bydd o’n dychwelyd i’r ysbyty am brofion cyson.