Fe allai newyddiadurwyr y BBC fynd ar streic dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Dyna’r cyhoeddiad ddaeth heddiw, wedi dau ddiwrnod o weithredu diwydiannol sydd wedi ymyrryd rhywfaint ar fwletinau a
rhaglenni newyddion yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain.

Os na fydd trafodaethau’n dwyn ffrwyth rhwng swyddogion undeb yr NUJ a phenaethiaid y BBC, fe fydd newyddiadurwyr yn cerdded ma’s dros gyfnod y gwyliau.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUJ, Jeremy Dear, mae “cefnogaeth soled” wedi bod i’r streic.

“Does bron dim rhaglenni newyddion wedi cael eu darlledu yn yr Alban, ac rydyn ni’n disgwyl cael effaith mawr ar wasanaeth newyddion y BBC heddiw hefyd.

“Mae’r BBC wedi gwneud cymaint o gamgymeriadau, o’r ffordd y maen nhw’n talu’r bosys i’r ffordd y maen nhw wedi rhewi ffi’r drwydded, a nawr, y ffordd maen nhw’n trio torri pensiynau pensiynwyr.”

Mae’r NUJ yn bwriadu cynnal streic ddeuddydd arall ar Dachwedd 15 ac 16.

Neges o’r top

Mewn neges at staff y BBC, dywedodd Mark Thompson:

“Mae un o bob chwech o staff y BBC wedi dewis peidio gweithio, ac mae pump o bob chwech yn gweithio fel arfer. Dyw hynny ddim wedi cael cymaint o effaith â’r disgwyl ar wasanaeth newyddion y BBC.

“Rydyn ni’n cydnabod hawl aelodau’r NUJ i weithredu’n ddiwydiannol. Ond wrth wneud hynny, rydyn ni’n diolch i’r mwyafrif o staff am barhau i weithio fel arfer.”