Fe groesawyd myfyrwyr Cymraeg newydd i Fangor eleni gyda noson ‘Pizza a pwnsh’, er bod yr hen neuadd draddodiadol wedi cael ei chau a stiwdants bellach yn aros mewn fflatiau moethus mewn dau adeilad gwahanol.

Mae Llywydd undeb myfyrwyr Cymraeg y coleg yn mynnu nad yw’r newid wedi bod yn un negyddol i fyfyrwyr.

Er bod y myfyrwyr a arferai fyw yn Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ar Ffordd y Coleg bellach yn byw mewn dau adeilad gwahanol – o’r enw Bryn Dinas a Tegfan – ar Safle Ffriddoedd yn y ddinas – roedd y cinio croeso anffurfiol yn llwyddiant, meddai Mair Rowlands o UMCB.

“Mwy o ymdrech”

“Mae’r awyrgylch yn y fflatiau newydd yn dal yn really cyfeillgar, ond mae’n rhaid gwneud mwy o ymdrech drwy gynnal digwyddiadau gwahanol er mwyn gwneud yn siwr fod pobol yn cymysgu,” meddai wedyn, ar ôl bron i ddau fis yn y llety newydd.

“Mae’r awyrgylch wedi datblygu’n eitha’ tebyg i beth oedd o yn yr hen neuadd.”

Neithiwr, roedd disgwyl i ddau lond bws fynd i’r Ddawns Ryng-gol (mwy nag a fyddai’n mynd ar y dydd Gwener yn y gorffennol, meddai) ac un bws arall heno – gan ddod â’r nifer sy’n cefnogi’r digwyddiad i dros 100.

“Dw i’n meddwl, oherwydd ein bod yn Ffriddoedd, fod mwy o bobol Gymraeg oherwydd y gwell cyfleusterau,” meddai Mair Rowlands. “Mae pawb hefyd yn gwneud ymdrech arbennig i gymdeithasu oherwydd y trefniant fflatiau.”

Clwb Cymru – unwaith y mis

Ymhlith y newidiadau eraill yn nhrefniadau cymdeithasu Cymry Bangor mae Clwb Cymru, noson i fyfyrwyr Cymraeg sy’n cael ei chynnal unwaith y mis. Llynedd, roedd y noson yn cael ei chynnal bob wythnos.

Daw’r newid oherwydd bod hen Undeb y Brifysgol, lle’r oedd y noson yn cael ei chynnal, yn y gorffennol wedi’i chwalu a bysus rhad ac am ddim wedi’u trefnu gan y Brifysgol i gludo myfyrwyr i ddigwyddiadau cymdeithasol yn Neuadd Hendre yn Nhal-y-bont ger Bangor.

“Dyw e ddim wedi cael effaill negyddol… mae’r trefniant newydd yn gweithio dda ac yn boblogaidd. Fe ddaeth 150 i gefnogi Clwb Cymru ddydd Iau diwetha’.”

“Os rhywbeth, mae mwy yn dod i’r noson na’r llynedd,” meddai Mair Rowlands.