Mae maswr Cymru, Stephen Jones wedi dweud bod yn rhaid i Gymru ganolbwyntio ar eu gêm eu hunain yn hytrach na phoeni’n ormodol am dalent ymosodol Awstralia.
Mae hyfforddwr Awstralia, Robbie Deans wedi awgrymu y gallai ddewis yr un tîm a chwaraeodd yn erbyn Seland Newydd i herio Cymru.
Fe fyddai hynny’n golygu bod tîm Warren Gatland yn wynebu un o linellau cefn mwyaf bygythiol y byd gyda chwaraewyr fel Quade Cooper, Matt Giteau, Adam Ashley Cooper a James O’Connor yn rhan ohono.
Mae Stephen Jones yn cydnabod talent chwaraewyr Awstralia, yn enwedig y maswr, Quade Cooper.
“R’yn ni’n ymwybodol o allu Awstralia i ymosod. Mae ganddynt linell ôl ifanc a thalentog,” meddai.
“Mae Quade Cooper yn chwaraewr o safon. Mae’n wahanol iawn i bob chwaraewr arall ac mae’n gallu achosi llawer o broblemau i unrhyw amddiffyn.”
Ond mae Stephen Jones yn credu bod yn rhaid i Gymru ganolbwyntio ar eu cryfderau eu hunain yn erbyn y Wallabies.
“Dim ond hyn a hyn o ddadansoddi allwn ni ei wneud yn ystod y pythefnos r’yn ni gyda’n gilydd cyn y gêm.
“Mae’n rhaid i ni gael trefn arnom ni ein hunain. Mae’n rhaid i ni anghofio am Awstralia ac edrych ar beth ydan ni’n ei wneud yn dda.
“Mae’n rhaid i ni fod yn effeithlon ac yn gywir. R’yn ni’n cydnabod Awstralia, ond mae gennym ni ffydd yn ein gallu ein hunain.”