Mae S4C wedi ymosod ar y cyfryngau a Llywodraeth San Steffan heddiw gan ddweud eu bod nhw wedi camddefnyddio ffigyrau gwylio’r sianel er eu dibenion eu hunain.

Mewn darn barn ym mhapur newydd y Western Mail, mae Carys Evans, Pennaeth Ymchwil y sianel, yn dadlau bod niferoedd gwylio arlwy Cymraeg S4C wedi cynyddu yn hytrach na lleihau dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd bod y cyfryngau a’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi anwybyddu effaith gwahanu S4C a Channel 4 a’r ffaith nad yw ffigyrau gwylio’r sianel yn ddibynadwy.

Cyfeiriodd at un o atebion Jeremy Hunt yn Nhŷ’r Cyffredin ar 25 Hydref, pan ddywedodd bod “niferoedd gwylio wythnosol S4C wedi haneru dros y pum mlynedd diwethaf”.

Dywedodd Carys Evans mai’r unig ffordd “teg a chywir” o fesur perfformiad S4C dros y blynyddoedd diwethaf oedd edrych ar oriau iaith Gymraeg.

“Dydi camddarllen a chamddefnyddio ystadegau niferoedd gwylio S4C ddim yn rhywbeth newydd,” meddai.

“Mae’n gwbl annheg cymharu ffigyrau gwylio presennol S4C gyda rhai blynyddoedd blaenorol pan oedden ni’n darlledu rhaglenni Channel 4.

“Mae’n hanfodol bod unrhyw asesiad tymor hir o ffigyrau gwylio S4C yn ystyried y ffaith bod y sianel wedi newid o fod yn ddwy sianel – C4 a S4C – i un sianel iaith Gymraeg ar ôl y newid digidol.”

‘Mwy yn gwylio’

“Mae mwy o bobol yn gwylio oriau Cymraeg S4C nawr nag yn yr un cyfnod yn 2009.

“Rhwng mis Ionawr a Hydref 2010 cynyddodd cyrhaeddiad wythnosol cyfartalog yr oriau iaith Gymraeg i 460,000 o 445,000 yn ystod yr un cyfnod yn 2009.

“Mae nifer y sesiynau ar wasanaeth Clic S4C yn cynyddu – gyda dros filiwn o sesiynau yn ystod naw mis cyntaf 2010 – cynnydd 52% ar ffigyrau 2009.

Dywedodd bod “yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt yn un o nifer sydd wedi dewis anwybyddu canlyniadau anochel y broses.

“Mae’r cyfryngau, bron yn ddieithriad, wedi dewis symleiddio’r ddadl er lles pennawd cryf.”

Neb yn gwylio?

Ymosododd Carys Evans ar adroddiadau yn y Western Mail ym mis Mawrth, oedd yn honni nad oedd neb yn gwylio bron i 200 o raglenni S4C.

“Ym mis Mawrth, honnodd y cyfryngau nad oedd neb yn gwylio bron i 200 o’n rhaglenni ni. Mewn gwirionedd, roedd 90% o’r rheini yn rhaglenni i blant.”

Dywedodd nad yw’r Bwrdd Ymchwil Cynulleidfaoedd Darlledwyr (BARB) yn mesur ffigyrau gwylio ymysg plant o dan bedair oed.

“Mae niferoedd gwylio dechrau’r bore yn isel hyd yn oed ar y prif sianeli Saesneg,” meddai. “Rydym ni’n aml yn gweld bod ‘neb’ wedi gwylio rhaglenni Saesneg cyn oriau ysgol.

“Dyna’r ffeithiau, ond pam gadael i’r ffeithiau sbwylio pennawd da?”