Roedd un o’r ddau fom oedd ar eu ffordd o Yemen o fewn 17 munud i ffrwydro cyn iddo gael ei ddad-ffiwsio, meddai gweinidog cartref Ffrainc heddiw.
Honnodd Brice Hortefeux bod y bom ar fin ffrwydro mewn cyfweliad gyda sianel deledu France-2, ond ni wnaeth o ddweud o ble’r oedd o wedi cael y wybodaeth.
Roedd yr awyrennau ar fin gadael am Chicago o Loegr a Dubai ar ddydd Gwener pan dynnodd ymchwilwyr y pecynnau oddi arnynt a dod o hyd i fomiau y tu mewn.
Maen nhw’n beio’r bomiau ar bennaeth ffrwydron al Qaida yn Yemen, a oedd wedi cynllunio bom fethodd a ffrwydro dros Detroit.
Maen nhw’n credu bod Ibrahim al-Asiri wedi cynnwys pedair gwaith cymaint o ffrwydron yn y bomiau a oedd wedi eu cuddio ar yr awyrennau o Yemen.
Roedd y bom yn Dubai wedi hedfan ar ddwy awyren cyn i’r ymchwilwyr ddod o hyd iddo.
Roedd gan un ohonyn nhw, yr Airbus Qatar Airways o Yemen i Doha, le i 144 o deithwyr.