Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi dweud ei fod o’n credu bod capten newydd y tîm rhyngwladol, Matthew Rees, yn barod am yr her.
Mae bachwr y Scarlets yn olynu Ryan Jones i arwain Cymru am y tro cyntaf yn erbyn Awstralia dydd Sadwrn.
“Rwy’n credu bod Matthew yn un o’r chwaraewyr yn y garfan sydd wedi datblygu mwyaf dros y ddwy flynedd diwethaf – fel chwaraewr ac fel arweinydd,” meddai Warren Gatland.
“Yn 2008, Matthew oedd ail fachwr Cymru y tu ôl i Huw Bennett. Ond ers hynny mae o wedi gweithio’n galed iawn ac wedi gwella’n sylweddol.
“Roedd cael ei ddewis ar gyfer taith y Llewod yn 2009 yn hwb i’w hyder.
“Mae o wedi gwneud job gwych wrth arwain y Scarlets, ac fe fydd o’n gwneud yr un fath i ni. Mae’n chwaraewr sy’n arwain o’r blaen.”
Mae Gatland yn cydnabod fod yna sawl ymgeisydd ar gyfer capteniaeth Cymru, megis Alun-Wyn Jones, Gethin Jenkins, Martyn Williams a Stephen Jones.
“Roedd digon o opsiynau ar gael. Rwy’n gobeithio y bydd y chwaraewyr eraill yn cefnogi Matthew.”