Mae disgwyl i fwy na 200 o newyddiadurwyr BBC Cymru fynd ar streic ddydd Gwener a Sadwrn nesaf, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, yr NUJ.
Cyhoeddodd yr undeb neithiwr y byddai eu haelodau ar draws Prydain yn streicio ar 5-6 Tachwedd ac eto ar 15-16 Tachwedd yn erbyn bwriad y Gorfforaeth i newid eu hamodau pensiwn.
Mae disgwyl i fwy o streiciau gael eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf, ac un o’r posibiliadau sy’n cael eu trafod yw streicio dros y Nadolig.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr wrth Golwg 360 y bydd y streic yn siŵr o amharu ar wasanaethau BBC Cymru.
Mae eu gwasanaethau Cymraeg yn cynnwys rhaglen Newyddion ar gyfer S4C, bwletinau newyddion Radio Cymru a gwefan newyddion.
‘Teimlo’n gryf’
“Mae disgwyl i tua 220 o staff y BBC Cymru sy’n aelodau o’r NUJ streicio fis nesaf ac r’yn ni’n disgwyl iddo gael effaith mawr ar eu gwasanaethau,” meddai Jenny Lennox o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr.
“Mae nifer ohonyn nhw’n teimlo’n gryf am y mater ac mae’n rhaid i ni gefnogi’n haelodau.”
Fe ddaw’r penderfyniad i streicio ar ôl i 70% o aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr wrthod cynnig “terfynol” gan y Gorfforaeth.
Mae’r BBC am gyflwyno newidiadau i’w chynllun pensiwn er mwyn mynd i’r afael â diffyg ariannol o £1.5 biliwn yn y gronfa.
Yn ôl yr undeb fe fyddai derbyn y cytundeb yn golygu “talu mwy, gweithio’n hwy a derbyn llai o bensiwn”.
Ymateb BBC Cymru
“Rydyn ni’n dal yn ymgynghori â’r holl staff (yn aelodau undeb a’r rheini nad ydynt yn aelodau o undeb) ar ein cynnig pensiwn terfynol ac mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o undebau yn ei dderbyn yn adlewyrchu’r adborth gan staff yn ystod ein seminarau pensiwn,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru.
“Bydd y cyfnod ymgynghori â staff ar agor tan 15fed Tachwedd ac ar ôl y cyfnod hwnnw rydyn ni’n annog yr NUJ i ailystyried ei safbwynt yng nghyswllt y canlyniad undebau ar y cyd.”