Mae Gweinidog yn Llywodraeth Prydain wedi gwrthod rhoi sicrwydd y bydd S4C yn parhau y tu hwnt i 2014 ac y bydd ganddi sicrwydd ariannol wedi hynny.

Fe gafodd y Farwnes Rawlings ei holi’n uniongyrchol yn Nhŷ’r Arglwyddi am ddyfodol y sianel pan ddaw’r trefniant diweddara’ i ben, ond fe osgôdd y pwynt.

Roedd y Llafurwr, yr Arlgwydd Hunt o Kings Heath, wedi gofyn am ymrwymiad y byddai’r sianel Gymraeg yn parhau y tu hwnt i 2014-15 ac y byddai’n cael arian digonol.

Yr unig sylw oedd ganddi oedd bod y Llywodraeth yn “diogelu dyfodol ariannol S4C” ond roedd wedi sôn ynghynt am “wasanaeth teledu Cymraeg cryf ac annibynnol” yn y dyfodol.

Fe ailadroddodd hefyd y byddai’r sianel o 2012-13 ymlaen yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C, y byddai’r ddau gorff yn gorfod cytuno ar amcanion strategol ac “anghenion golygyddol bras” gan ddal y sianel yn gyfrifol am eu cyflawni.

Dod dan bwysau

Roedd y Farwnes wedi dod dan bwysau gan nifer o arglwyddi Cymreig, gan gynnwys y cyn weinidogion llywodraeth, John Morris ac Elystan Morgan.

Fe rybuddiodd Elystan Morgan y byddai creu’r bartneriaeth gyda’r BBC yn “torri cyfamod oedd wedi ei wneud rhwng Willie Whitelaw [yr Ysgrifennydd Cartref adeg sefydlu’r sianel] a phobol Cymru”.

Yn ôl Roger Roberts, yr Arglwydd Roberts o Landudno, roedd angen sicrwydd y byddai’r gwasanaeth Cymraeg erbyn 2015 yr un “mor ddiogel â chynhwysfawr” ag ar hyn o bryd.

Llun: Siambr yr Arglwyddi (Senedd)