Mae cyrch gan filwyr NATO wedi lladd 15 o wrthryfelwyr y Taliban yn Affganistan heddiw.

Mae NATO wedi cadarnhau bod yna ymgyrch ar y cyd gyda lluoedd Affganistan i ddal un o arweinyddion y Taliban.

Fe gafodd pedwar gwrthryfelwr eu lladd yn ystod y cyrch i ddal yr arweinydd. Bu farw 11 arall wrth iddyn nhw geisio teithio ar gyflymder mewn cerbydau i geisio ymosod ar filwyr NATO.

Fe gafodd ffatri gwneud bomiau ei ganfod ynghyd â storfa o arfau. Fe gafodd y cyfan ei dinistrio mewn cyrch bomio o’r awyr.

Mae un milwr NATO wedi marw mewn ymosodiad arall gan wrthryfelwyr yn nwyrain Affganistan, sy’n golygu bod 50 o filwyr wedi marw yn Affganistan y mis yma.