Bydd miloedd o reolwyr y gwasanaeth post yn pleidleisio ar streic dros doriadau swyddi – y tro cynta’ iddyn nhw fygwth gwneud hynny ers 1979.
Mae undeb Unite yn dweud bod 8,500 o reolwyr y Post Brenhinol, Parcelforce a’r Swyddfa Bost yn pleidleisio ar ddechrau ymgyrch streic.
Yn ôl yr undeb, mae’r rheolwyr yn protestio yn erbyn y bwriad i gael gwared ar 1,500 o swyddi rheolwyr.
Maen nhw’n dweud bod 5,000 o doriadau wedi bod yn ystod y pum mlynedd diwethaf eisoes a doedd dim o’r rheiny’n orfodol.
Barn yr undeb
“Mae rheolwyr yn poeni gymaint am eu dyfodol fel eu bod nhw am y tro cyntaf ers 30 blynedd yn pleidleisio ar streic,” meddai Paul Reuter, swyddog cenedlaethol Unite.
“Dyw Unite ddim am adael i reolwyr gael eu gorfodi allan o swyddi oherwydd penderfyniadau gwael sy’n cael eu gwneud yn uchel i fyny yng ngrŵp y Post Brenhinol.
“Os yw’r Post Brenhinol yn cael mynd ymlaen gyda diswyddiadau gorfodol, fe fyddan nhw’n parhau i ddod yn ôl am fwy – felly mae Unite yn bwriadu stopio’r Post Brenhinol ar unwaith,” meddai.
“Does dim angen cam mor llym nawr. Mae Unite yn bwriadu ei wrthwynebu,” meddai.
Fe fydd y bleidlais gudd yn dechrau fis Tachwedd.
Ymateb y Post Brenhinol
“Rydym yn parhau yn siarad gyda Unite ac wedi pwysleisio y byddwn yn parhau i wneud ein gorau i reoli unrhyw golledion swyddi drwy ddulliau gwirfoddol. R’yn ni wedi cynyddu ein pecyn diswyddo gwirfoddol presennol.
“Mae’r gostyngiadau hyn yn hanfodol wrth i ni barhau i addasu i farchnad sy’n newid yn gyflym ac yn dirywio. Mae lefel y post wedi gostwng o 13 miliwn o lythyrau bob dydd mewn dim ond pum mlynedd.”
Blwch post (J+KhaisuTai – GNU)