Mae nifer yr oedolion sydd â chlefyd siwgr yn y DU wedi codi 6% ers y llynedd, gyda’r cynnydd ar ei waetha’ yng Nghymru.

Fe gynyddodd y nifer yma o tua 7,000 yn ôl y ffigurau diweddara’ – mae’n golygu bod tuag un o bob ugain o bobol y wlad yn diodde’ o’r clefyd.

Ar yr un pryd, fe fu cynnydd yn nifer y bobol sy’n rhy dew, gydag un o bob deg o bobol gwledydd Prydain yn cael eu trin am hynny.

Mae’r cynnydd yn y ddau gyflwr wedi’i alw’n “syfrdanol” gan elusen Diabetes UK, sy’n galw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r problemau.

Mae cysylltiad cryf rhwng bod yn rhy dew a math 2 o’r clefyd, sy’n effeithio ar naw o bob deg o’r cleifion.

Y ffigyrau a rhybuddion

Mae’r ffigurau sydd wedi’u casglu gan feddygon teulu, yn dangos bod gan tua 2.8 miliwn o bobol 17 oed a throsodd yn y Deyrnas Unedig glefyd siwgr – cynnydd o fwy na 150,000 ers y llynedd.

Mae nifer yn bobol dros 16 oed sy’n rhy dew wedi codi i fwy na 5.5 miliwn – cynnydd o fwy na 265,000 trois y flwyddyn.

Fe ddywedodd Simon O’Neill, cyfarwyddwr gwybodaeth a gofal Diabetes UK y byddai methiant i weithredu nawr yn golygu “dyfodol llwm a chostau cynyddol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

‘Codi ymhellach’

Fe ddywedodd elusen arall, Child Growth Foundation bod y ffigyrau’n debyg o godi ymhellach a’u bod yn brawf o ddifrifoldeb problemau clefyd siwgr a gordewdra yng ngwledydd Prydain.

Mae clefyd siwgr yn cael ei ystyried yn salwch difrifol. Os nad yw’n cael ei adnabod yn fuan neu’n cael ei reoli’n wael – gall arwain at golli golwg neu strôc.

Llun: Profi am glefyd siwgr (o wefan Diabetes UK)