Mae ofn y gallai’r colera sydd wedi lladd 250 o bobol yn Haiti ledu drwy slymiau’r brifddinas.
Er bod yr awdurdodau’n gobeithio eu bod yn rheoli’r haint, mae adroddiadau am bum achos newydd yn Port-au-Prince.
Eisoes, mae’r colera – y geri – wedi effeithio ar fwy na 3,000 o bobol yn ardal y daeargryn ac mae arbenigwyr wedi rhybuddio bod peryg i ragor o’r 1.3 miliwn sy’n byw yn y ddinas.
Yn ôl y Llywodraeth, roedd y pump claf wedi dal yr afiechyd y tu allan i Port au Prince ac maen nhw’n gobeithio gallu cyfyngu’r salwch i’r ardaloedd gwledig.
“Dydi hi ddim yn anodd ei atal rhag ymledu i Port-au-Prince. Mi fedrwn ni ei atal,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Gabriel Timothee.
‘Monitro yw’r allwedd’
Mae’r Gweinidog yn credu y bydd monitro symudiadau cleifion a gofalu am gyrff yn atal trychineb meddygol enfawr.
“Y senario gwaethaf yw bod miloedd o bobol yn sâl ar yr un pryd,” meddai Claude Surena, Llywydd Cymdeithas Feddygol Haiti.
Mae Colera yn gallu achosi cyfogi a dolur rhydd mor ddifrifol nes ei fod yn gallu lladd claf o ddiffyg hylif mewn ychydig oriau.
Mae’r afiechyd yn ymledu’n gyflym mewn ardaloedd lle mae diffyg glanweithdra.
Llun: Llun lloeren o Port-au-Prince, yn dangos y ddinas yn lledu (Cyhoeddus)