Fe allai Cymru ennill medal aur arall yng Ngêmau’r Gymanwlad, fis ar ôl y digwyddiad.
Mae’r dyn a gurodd Sean McGoldrick o Gasnewydd yn rownd derfynol y bocsio pwysau bantam wedi methu prawf cyffuriau.
Mae gan Manju Wanniarachchi o Sri Lanka bythefnos i ofyn am ail brawf – os bydd hwnnw’n bositif, fe fydd y Cymro 18 oed o Gasnewydd yn cael y fedal yn ei le.
Roedd cefnogwyr McGoldrick yn teimlo mai ef oedd yn haeddu ennill beth bynnag yn yr ornest bythefnos yn ôl – yn y diwedd, fe gollodd o un pwynt.
Bellach, fe ddaeth yn amlwg bod Wanniarachchi wedi cael prawf positif am y cyffur nandrolone, cyffur sy’n cael ei ddefnyddio i helpu twf y cyhyrau.
Pe bai McGoldrick yn cael yr aur, fe fyddai’n codi nifer medalau Cymru i 20 ac yn golygu bod y tîm wedi gwneud yn well nag yn y Gêmau cynt.
Llun: Math o nandrolone sy’n cael ei ddefnyddio gan athletwyr (CCA 2.0)