Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud faint y mae wedi dychryn o glywed am hunanladdiadau nifer o bobol ifanc oedd yn cael eu bwlian oherwydd eu bod nhw’n hoyw.

“Fel tad i ddwy o ferched, mae’n torri fy nghalon i,” meddai Barack Obama mewn fideo a gafodd ei osod neithiwr ar wefan YouTube. “Ddylai hyn ddim digwydd yn y wlad yma.”

“Mae’n bryd i Americanwyr roi’r gorau i’r gred fod bwlian yn rhan o fywyd.

“Dw i ddim yn gwybod sut deimlad ydi o i gael fy mwlian oherwydd fy mod i’n hoyw,” meddai wedyn. “Ond dw i yn gwybod sut brofiad ydi tyfu i fyny gan deimlo nad ydych chi’n perthyn. Mae’n anodd.”

Weithiau, fe all y rheiny sy’n cael eu bwlian ddechrau credu mai arnyn nhw y mae’r bai am yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw, meddai Barack Obama wedyn, cyn ychwanegu’r gair o gyngor hwn: “Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, a wnaethoch chi ddim byd o’i le.”

Gofynnwch am help

Dylai pawb sy’n teimlo’n unig neu’n isel drio siarad gyda rhywun y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw, meddai Barack Obama wedyn. Rhywun fel athro, rhiant, neu unrhyw un sy’n eu derbyn am yr hyn ydyn nhw.

“Dros gyfnod o amser, fe ddewch chi I sylweddoli fod yr hyn sy’n eich gwneud chi’n wahanol yn rhywbeth i chi ymfalchio ynddyn nhw, ac yn eich gwneud chi’n gryfach.”

Nifer o farwolaethau

Mae bwlian pobol hoyw wedi bod yn y newyddion gryn dipyn yn ddiweddar, wedi nifer o achosion o bobol ifanc yn eu lladd eu hunain.

Mae’r bobol ifanc yn cynnwys Asher Brown, 13, o Houston, a saethodd ei hun gyda gwn ei dad; a Tyler Clementi, 18, myfyriwr coleg o New Jersey a neidiodd oddi ar bont wedi i gyd-fyfyriwr ei recordio ar gamera gyda myfyriwr gwrywaidd arall, a darlledu’r fideo ar y we.