Mae’r seiclwraig Becky James, a enillodd fedal efydd yn y ras 500m yn erbyn y cloc ddydd Mawrth, wedi cyrraedd rownd derfynol y sprint yn y felodrôm bore ma.
Y ferch 18 oed o’r Fenni yw’r ail Gymraes erioed i gyrraedd y ffeinal gan ddilyn yn ôl traed Louise Jones yng Ngemau Auckland yn 1990.
Fe sicrhaodd James ei lle yn y rownd derfynol gan guro Kaarle McCulloch o Awstralia yn y rownd gyn derfynol.
Bydd hi nawr yn herio merch arall o Awstralia, Anna Meares, yn hwyrach y bore yma.
Mae Mears wedi ennill nifer dwy fedal aur ar y trac eisoes yr wythnos hon, gan gynnwys curo James yn y ras 500m yn erbyn y cloc. Mae tîm seiclo merched Awstralia hefyd wedi dominyddu trac seiclo’r Indira Gandhi hyd yn hyn eleni gan gipio 7 o’r 8 medal aur sydd wedi eu hennill hyd yn hyn.
(Llun: John Giles/PA)