Fe fu babi newydd anedig farw ar ôl i fwnci ei gipio o lolfa teulu ym Malaysia.
Yn ôl papurau newydd The Star a New Strait Times daethpwyd o hyd i gorff y babi pedwar diwrnod oed y tu allan i’r cartref yn nhalaith Negri Sembilan ddoe.
Roedd gan y baban, oedd wedi ei gadael ar ei phen ei hun yn yr ystafell, olion danned ar ei gwddf a’i hwyneb.
Dywedodd y tad ei fod o wedi gweld mwnci yn crwydro o amgylch y tu allan i’r tŷ cyn yr ymosodiad.
Dywedodd un o swyddogion bywyd gwyllt y dalaith, Ishak Muhamad, bod y mwnci wedi ei ddenu i mewn i’r tŷ gan fwnci anwes benywaidd yr oedd y teulu yn ei gadw mewn cawell.
Mae mwncïod yn bla yn ninasoedd Malaysia ac mae’r awdurdodau yn ceisio cael gwared ohonyn nhw.