Fe allai dyfodol yr academi filwrol ddadleuol ym Mro Morgannwg gael ei setlo heddiw.

Fe fydd y Pwyllgor Diogelwch Cenedlaethol yn cyfarfod i drafod toriadau mewn gwario ar amddiffyn.

Un o’r cynlluniau sydd dan fygythiad yw’r Academi, sydd i fod i gostio rhwng £12 biliwn a £14 biliwn a chreu miloedd o swyddi yn Sain Tathan yn y Fro.

Mae amheuon cyson wedi bod a fydd y ganolfan i hyfforddi’r holl luoedd arfog yn digwydd, neu a fydd y cynlluniau’n cael eu cwtogi’n sylweddol.

Mae ymgyrchwyr heddwch ac amgylchedd hefyd wedi bod yn gwrthwynebu’r datblygiad a fyddai’n golygu cau canolfannau hyfforddi mewn rhannau eraill o wledydd Prydain a’u crynhoi yng Nghymru.

Toriadau

Fe fydd y cyfarfod heddiw – ac un arall ymhen yr wythnos – yn penderfynu ar ddyfodol y cynllun cyn datganiad gwario’r Llywodraeth ymhen pythefnos.

Mae dadlau hefyd am gynllun i adeiladu dwy long-awyrennau newydd ond, yn ôl adroddiad ar y BBC, fe fyddai’n costio mwy i ganslo hwnnw nag i barhau.

Ddoe, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, David Cameron, y byddai’r Llywodraeth yn parhau gyda’r bwriad i adnewyddu arfau niwclear Trident.

Llun: Canol pentref Sain Tathan (Mick Lobb – CCA 2.0)