Mae Maer Llundain a busnesau mawr wedi galw am newid yn y gyfraith i’w gwneud hi’n fwy anodd i weithwyr streicio.
Maen nhw eisiau codi’r trothwy cyn y gall aelodau undeb bleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.
Yn ôl arweinwyr undeb, mae hynny’n ymosodiad ar hawliau sylfaenol, mewn gwlad lle mae’r cyfreithiau gwrth-streicio eisoes yn fwy caeth nag mewn gwledydd gorllewinol eraill.
‘Ymosodiad gwleidyddol’
Mae’r Maer, Boris Johnson, wedi cyhuddo undebau’r gweithwyr rheilffordd o “ymosodiad gwleidyddol ar y Llywodraeth” wrth gynnal streic 24 awr heddiw.
Mae disgwyl anhrefn ar strydoedd Llundain, er bod mwy o wasanaethau wedi’u trefnu ar y bysys ac afon Tafwys.
Yn ôl y Maer, does dim cyfiawnhad tros y streic yn erbyn newidiadau yn y trefniadau gweithio – yn ôl Boris Johnson, fyddai neb yn colli gwaith na chyflog.
Mae wedi galw am iddi fod yn anghyfreithlon streicio os na fydd o leia’ hanner aelodau undeb wedi pleidleisio mewn balot.
Mae cymdeithas y cyflogwyr, y CBI, hefyd eisiau codi’r trothwy i 40% ac am ymestyn y cyfnod rhybudd cyn streicio o saith niwrnod i 14.
‘Hawliau sylfaenol’
Roedd cynigion y CBI yn “ymosodiad” ar hawliau sylfaenol, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, y TUC.
“Gan y Deyrnas Unedig y mae rhai o’r cyfyngiadau mwya’ caeth ar yr hawl i streicio yn y byd datblygedig,” meddai Brendan Barber.
“Mae cynigion y CBI yn ymosodiad ar hawliau sylfaenol sy’n cael eu cydnabod ym mhob siarter hawliau dynol.”
Llun: Y drysau’n hanner cau mewn gorsaf danddaearol yn Llundain (Gwifren PA)