Mae casgliad o 19 o fudiadau Cymraeg wedi galw am newidiadau sylfaenol yn y Mesur Iaith.
Fe fydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn cyflwyno gwelliannau i Lywodraeth y Cynulliad heddiw gan alw am roi statws swyddogol i’r iaith ac am hawl i unigolion ei defnyddio.
“Ein diddordeb ni yw gweld y mesur hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n haelodau ni ar lawr gwlad ac ar hyn o bryd, fydd e ddim,” meddai Dafydd Idris Edwards, llefarydd ar ran y mudiadau.
“Ar hyn o bryd, mae’r mesur mewn perygl o fethu â diogelu hawliau ieithyddol y dinesydd gan ffafrio rhoi mwy o rym i gwmnïau a sefydliadau.”
Statws a hawliau
Mae’r mudiadau, sy’n amrywio o Gymdeithas yr Iaith a’r Urdd i Ferched y Wawr a’r Gymdeithas Ddawnsio Gwerin yn dweud bod angen cael statws a hawliau fel ei gilydd.
Fe fyddan nhw’n cyflwyno’r newidiadau i’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, sydd hyd yma wedi dadlau yn erbyn y ddau newid, gan ddweud bod trefn newydd o safonau iaith i’r gwasanaethau cyhoeddus yn cyrraedd yr un nod.
Llun: Y Gweinidog, Alun Ffred Jones