Rheolau iechyd a diogelwch sydd wedi rhwystro cefnogwyr dydd Gwener rhag cael mynd i mewn am ddim i’r Cwpan Ryder heddiw.
Yn ôl capten tîm Ewrop, Colin Montgomerie, roedden nhw wedi holi am y posibilrwydd ond yr ateb oedd y byddai’n amhosib caniatáu hynny.
Fel y mae, dim ond cefnogwyr ddoe a’r rhai sydd â thocynnau tridiau fydd yn cael mynd i mewn ar gyfer y diwrnod ychwanegol hanesyddol.
Cwyno
Mae pobol a brynodd docynnau ddydd Gwener a cholli’r rhan fwya’ o’r diwrnod oherwydd glaw wedi bod yn cwyno nad ydyn nhw’n cael cyfle ychwanegol.
Yn ôl y trefnwyr y broblem fyddai delio gyda’r niferoedd – ar bapur, fe allai cymaint ag 80,000 fod yn manteisio ar y cyfle.
Dyma’r tro cynta’ ers dechrau’r gystadleuaeth 83 o flynyddoedd yn ôl iddi orfod cael ei hymestyn i bedwerydd diwrnod ac fe fydd y gornestau unigol yn penderfynu pwy sy’n ennill y Cwpan.
Yr Alban – eisiau dysgu’r gwersi
Yn y cyfamser, mae trefnwyr Cwpan Ryder yr Alban yn 2014 yn ceisio sicrhau bod gwersi’r gystadleuaeth eleni yn cael eu dysgu.
Yn ôl papur y Scotsman, fe ddywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, bod eisiau gwneud yn siŵr bod y gystadleuaeth yn digwydd yn gynharach na mis Hydref.
Mae yna feirniadaeth ar drefnwyr y gylchdaith golff yn yr Unol Daleithiau am ei gwneud yn amhosib cynnal y Cwpan yn yr haf.
Llun: Golff yn y glaw (Gwifren PA)