Wrth i’r prawf gyrru newid yn sylweddol, mae un o’r prif fudiadau gyrru wedi galw am newid pellach i wneud y ffyrdd yn saffach yng Nghymru.

Fe ddylai pawb gael profiad o yrru ar ffyrdd gwledig, yn ôl Sefydliad y Gyrwyr Mwy Cymwys (IAM), er mwyn lleihau’r nifer y marwolaethau yng nghefn gwlad.

“Mae ein hymchwil annibynnol ni’n dangos bod dwy ran o dair o’r damweiniau ffordd marwol yn Lloegr yn digwydd ar ffyrdd gwledig ac mae’r ffigwr yn codi i dri chwarter yng Nghymru a’r Alban,” meddai Prif Arholwr y Sefydliad, Peter Rodger.

“Ar hyn o bryd, dyw gyrru ar ffyrdd gwledig ddim yn rhan orfodol o’r prawf gyrru ac, o ystyried maint y broblem, rydyn ni’n credu mai dyna’r lle nesaf ar gyfer gwelliant parhaus.”

Y newid heddiw – gyrru annibynnol

Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r prawf gyrru heddiw wedi cael croeso cyffredinol gan y Sefydliad a mudiadau gyrru eraill.

O hyn ymlaen, fe fydd gyrru annibynnol yn rhan o’r prawf – fe fydd disgwyl i bob ymgeisydd yrru am tua deg munud heb unrhyw gyfarwyddiadau gan yr arholwyr.

Y nod yw sicrhau bod pobol sy’n pasio’r prawf yn gallu gyrru dan amodau cyffredin a fyddan nhw ddim yn cael eu cosbi os byddan nhw’n mynd y ffordd anghywir.

• Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain yn dweud bod 75% o bobol eisiau i bob darpar-yrrwr yrru am flwyddyn cyn cael sefyll y prawf. Roedden nhw wedi cynnal arolwg o fwy na 2,000 o bobol.

Llun: Prawf gyrru (DSA)