Fe rybuddiodd arweinydd undeb bod streiciau’n bownd o ddigwydd yn erbyn toriadau gwario Llywodraeth y Glymblaid.
Y Cymro Mark Serwotka oedd un o’r areithwyr wrth i filoedd o bobol orymdeithio trwy Birmingham lle mae’r Ceidwadwyr yn cynnal eu cynhadledd flynyddol.
“Safwn gyda’n gilydd gorymdeithiwn gyda’n gilydd, streiciwn gyda’n gilydd a wnawn ddim gadael iddyn nhw gael eu ffordd,” meddai.
Ef yw Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y gweision sifil y PCS ac ef oedd un o’r lleisiau cryfa’ ar y chwith.
Mae wedi dadlau’n gyson nad oes angen torri mor ffyrnig na chyflym ag y mae’r Llywodraeth Glymblaid yn ei fwriadu.
Y Glymblaid er lles, meddai Hague
Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi mynnu bod creu Llywodraeth Glymblaid er budd gwledydd Prydain.
Roedd angen gweithredu i glirio’r ddyled ariannol, meddai, ond roedd ei neges yn fwy i aelodau Ceidwadol anhapus ag i’r protestwyr.
Roedd creu’r Glymblaid wedi golygu ildio ar rai pethau, meddai, ond roedd hynny’n well na “stryffaglu ymlaen” yn hunanol.
Llun: Y brotest heddiw (Gwifren PA)