Mae’r Prif Weinidog wedi ychwanegu at y dyfalu y bydd budd-dal plant i bawb yn dod i ben.
Ar raglen deledu heddiw, fe awgrymodd nad oedd modd fforddio rhai o’r budd-daliadau sy’n cael eu talu i bawb, yn gyfoethog a thlawd.
Er iddo gefnogi pensiwn i bawb, fe awgrymodd yn gry’ bod y Llywodraeth yn edrych ar newid y drefn gyda rhai budd-daliadau eraill.
Yr un mwya’ amlwg fyddai budd-dal plant. Yn ogystal â’i atal ar ôl 16 oed, fe fyddai ei atal i bobol gymharol gefnog yn arbed biliynau o bunnoedd pob blwyddyn.
‘Gwallgo’ meddai IDS
Mae pensaer newidiadau’r Ceidwadwyr ym maes budd-daliadau, Ian Duncan Smith, eisoes wedi dweud bod talu budd-dal plant i deuluoedd cefnog yn “wallgo”.
Ymhlith y dadleuon o blaid budd-dal i bawb mae ofn y gallai rhoi prawf modd arno olygu y bydd rhai’n methu â’i hawlio ac y bydd pobol fwy cefnog yn rhoi’r gorau i’w gefnogi’n wleidyddol.
Fe wrthododd David Cameron roi manylion pellach am y newidiadau cyn cyhoeddi canlyniadau adolygiad gwario’r Llywodraeth ar 20 Hydref ond mae’n hysbys eu bod yn bwriadu cyfuno budd-daliadau i greu un budd-dal mawr.
Mae’r ffaith bod y Trysorlys wedi cytuno ar hynny yn awgrymu eu bod am lwyddo i wneud arbedion ac fe ddywedodd David Cameron heddiw y byddai’n rhaid cwtogi ar y bil budd-daliadau.
Llun: Ian Duncan Smith (Gwifren PA)