Mae undebau wedi dweud na fydd gweithwyr BBC yn mynd ar streic yr wythnos nesaf.

Roedd newyddiadurwyr, technegwyr a gweithwyr eraill yn yr adrannau darlledu wedi bygwth gweithredu’n ddiwydiannol ar 5 a 6 Hydref, ar ôl i’r BBC gyhoeddi newidiadau i bensiynau staff.

Mi allai hyn fod wedi amharu ar ddarllediad o gynhadledd y blaid Geidwadol ym Mirmingham, gan gynnwys araith y Prif Weinidog, David Cameron.

Ond y prynhawn yma, dywedodd llefarydd ar ran yr undeb gweithwyr darlledu, Bectu, bod y streic wedi’i hatal, ar ôl iddyn nhw dderbyn cynnig gan y gorfforaeth oedd yn “sylweddol well” .

Mae disgwyl nawr y bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i undebwyr a fydd yn pleidleisio dros ei dderbyn neu ei wrthod.

Petai’n cael ei wrthod, maen nhw’n debygol o fwrw ymlaen a’u cynlluniau blaenorol i streicio ar 19 a 20 Hydref, pan fydd y Canghellor George Osborne yn datgelu manylion toriadau gwario’r Llywodraeth.

Ed Miliband

Yn gynharach heddiw, roedd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw ar weithwyr y BBC i beidio â streicio yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr, gan ddweud y dylai araith y Prif Weinidog gael ei darlledu “er lles tegwch ac amhleidioldeb”.

Roedd nifer o newyddiadurwr blaenllaw o fewn y BBC hefyd wedi rhybuddio yn erbyn rhoi’r argraff bod y streic arfaethedig yn targedu’r Ceidwadwyr.

Mae’r BBC am gyflwyno newidiadau i’w chynllun pensiwn er mwyn mynd i’r afael â diffyg ariannol o £1.5 biliwn yn ei chronfa bensiwn.