Mae capten Ewrop, Colin Montgomerie, eisoes yn sicr y bydd y Cwpan Ryder yn cael ei ymestyn tan ddydd Llun am y tro cyntaf yn ei hanes ar ôl bron i wyth awr o oedi oherwydd y glaw.
Cyhoeddwyd pnawn ma y byddai’r chwarae yn ailddechrau am 5pm yn y Celtic Manor, Casnewydd, ar ôl saith awr a chwarter o dindroi.
“Dydw i ddim yn meddwl fod yna unrhyw law ar ôl, ac fe allai pethau wella’n sylweddol,” meddai’r prif ddyfarnwr John Paramor.
Bu’n rhaid rhoi gorau i chwarae ar ôl dwy awr heddiw oherwydd glaw trwm a chwrs golff oedd yn rhy wlyb i chwarae arno.
Roedd Ewrop ar y blaen pan ddaeth y chwarae i ben am 9.45am. Ond erbyn hynny roedd sawl llyn ychwanegol wedi ffurfio ar y cwrs Twenty Ten.
Yn gynharach heddiw roedd Colin Montgomerie wedi dweud y byddai’n rhaid i’r chwarae ail ddechrau am 1.45pm os oedd ganddyn nhw unrhyw obaith o orffen erbyn pnawn Sul.
Yn ôl rhagolygon y tywydd fe fydd yna niwl dydd Sadwrn cyn i fwy o law gyrraedd dydd Sul.
Beirniadu
Yn gynharach roedd cyn gapten Ewrop, Tony Jacklin wedi dweud ei fod o’n feirniadol o’r penderfyniad i gynnal y gystadleuaeth mor hwyr yn y flwyddyn. Dyma’r hwyraf y mae o wedi ei gynnal yn Ewrop ers 1961.
“Mae’n wallgo’ peryglu digwyddiad mor boblogaidd â’r Cwpan Ryder drwy ei wthio yn ôl mor bell â hyn,” meddai.