Cafodd o leiaf wyth o bobol eu lladd gan dri ffrwydrad wrth i Nigeria ddathlu 50 mlynedd ers ei hannibyniaeth heddiw.

Ffrwydrodd dau fom car yn y brifddinas Abuja wrth i’r arlywydd gymryd rhan yn y dathliadau.

Daw’r ffrwydradau ar ôl i wrthryfelwyr ddatgan nad oedd yna “unrhyw beth i’w ddathlu ar ôl 50 mlynedd o fethiant” yng ngwlad fwyaf poblog Affrica.

Er gwaethaf cyfoeth olew’r wlad mae mwyafrif y boblogaeth yn byw ar lai nag 65c y diwrnod.

Ffrwydrodd y bom yn Eagle Square ble’r oedd y fyddin yn gorymdeithio fel rhan o’r dathliadau. Fe aeth y dathliadau yn eu blaenau heb unrhyw oedi.

Dyma ymosodiad mwyaf beiddgar y gwrthryfelwyr hyd yn hyn. Mae’r brifddinas cannoedd o filltiroedd o’r arfordir deheuol ble y maen nhw ar eu cryfaf.

“Dros 50 mlynedd mae pobol delta Niger wedi gweld eu hadnoddau yn cael eu dwyn,” meddai datganiad a gafodd ei yrru at newyddiadurwyr bore ma.

Mae’r gwrthryfelwyr wedi targedu pibelli olew, wedi herwgipio gweithwyr yn y diwydiant olew, ac wedi brwydro milwyr y fyddin, ers ffurfio yn 2006.