Mae tri dyn wedi eu carcharu gan Lys y Goron yr Wyddgrug am eu rhan wrth gynhyrchu a dosbarthu canabis.
Daeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru o hyd i’r ffatri ganabis ym Mae Cinmel ym mis Mehefin eleni.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n croesawu dedfrydau Mark Graham, James Simpson a Jon Dullighan, a ddaeth ar ôl “ymchwiliad hir” i’w gweithgareddau troseddol.
“Roedd y tri dyn wedi chwarae rhan allweddol wrth gynhyrchu a dosbarthu lot fawr iawn o ganabis a oedd wedi ei dyfu mewn unedau diwydiannol yn Bae Cinmel,” meddai ‘r Ditectif Arolygydd Iestyn Davies.
Mark Graham, 55, o Bryn Castell, Abergele, oedd arweinydd y troseddwyr, ac fe gafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Roedd o wedi cyflogi James Simpson, 34, o Brooklands, Hen Golwyn, a Jon Dullighan, 29, o Stryd yr Orsaf, Talacre, er mwyn tyfu a dosbarthu’r canabis.
Dedfrydwyd James Simpson i bedair blynedd yn y carchar a Jon Dullighan i ddwy flynedd a hanner yn y carchar.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i bron i 4,700 o blanhigion canabis ar Uned Ddiwydiannol Tir Llwyd.
Maen nhw’n amcangyfrif bod y troseddwyr wedi cynhyrchu gwerth £1m o ganabis yno.