Lansiodd China long ofod i’r lleuad heddiw, y cam diweddaraf yn eu cynllun uchelgeisiol i roi dyn ar y lleuad erbyn diwedd y ddegawd.
Saethwyd y wennol Chang’e II i’r gofod ar roced Long March 3C o safle lansio rhanbarth Sichuan de orllewin China.
Pwrpas y wennol fydd profi technoleg newydd ar gyfer gwennol Chang’e III a fydd yn glanio ar y lleuad yn 2012. Y gobaith yw y bydd gofodwr o China yn glanio ar y lleuad yn 2017.
Fe fydd Chang’e II yn cylchdroi naw milltir uwchben y lleuad ac yn ffilmio safleoedd glanio posib ar gyfer y wennol ofod Chang’e III.
Mae China hefyd yn gobeithio lansio modiwl cyntaf eu gorsaf ofod eu hunain y flwyddyn nesaf, ac yna llong ofod fydd yn gallu cario gofodwyr fydd yn aros arno.
Dim ond yn 2003 y cyrhaeddodd y gofodwyr cyntaf o China y gofod, gan ddilyn yr Unol Daleithiau a Rwsia fel yr unig wledydd yn y byd i yrru gofodwyr tu hwnt i awyrgylch y ddaear.