Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi galw ar staff y BBC i beidio â streicio yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr yr wythnos nesaf.
Dywedodd y dylai araith y Prif Weinidog gael ei darlledu ar sianeli teledu a radio’r BBC “er lles tegwch ac amhleidioldeb”.
“Beth bynnag y cyfiawnhad o blaid yr anghydfod rhwng yr undeb darlledu, Bectu a’r BBC, dylen nhw ddim atal darllediad araith y Prif Weinidog,” meddai Ed Miliband.
“Cafodd fy araith i ei gweld a’i chlywed ar y BBC ac fe ddylen nhw ddarlledu araith y Prif Weinidog hefyd.”
Llwyddodd Ed Miliband i faeddu ei frawd David Miliband o drwch blewyn yn y ras i fod yn arweinydd ar y Blaid Lafur, diolch i gefnogaeth yr undebau.
Ers hynny mae o wedi dweud nad ydi o’n was bach iddyn nhw ac mae ei ddatganiad heddiw yn cael ei weld fel ymgais i bwysleisio hynny.
Ffrae pensiynau
Roedd sawl newyddiadurwr blaenllaw o fewn y BBC wedi rhybuddio ddoe bod y blaid yn rhoi’r argraff eu bod nhw’n targedu Ceidwadwyr drwy streicio ar 5 a 6 Hydref.
Fe fydd y BBC yn streicio eto ar 19 a 20 Hydref, pan fydd y Canghellor George Osborne yn datgelu manylion toriadau gwario’r llywodraeth.
Ddoe dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Mark Thompson, nad oedden nhw eisiau “rhoi’r argraff nad oedden nhw bellach yn ystyried amhleidioldeb yn bwysig”.
“Rydw i eisiau gofyn un cwestiwn i’n staff: ai dyma’r diwrnodau cywir i streicio?”
Daw’r streiciau ar ôl i’r BBC gyhoeddi newidiadau i bensiynau staff, er mwyn mynd i’r afael gyda diffyg ariannol £1.5 biliwn yng nghronfa bensiwn y gorfforaeth.