Bydd Pwyliad yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o drywanu mam a’i mab 11 oed i farwolaeth yn y Fflint ym mis Gorffennaf.

Fe fydd Krystian Rozek, 27 yn rhoi ple heddiw ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio Monika Wasko, 29 a’i mab Patryk ac o geisio llofruddio gŵr Monika Wasko – Rafael, 33.

Roedd Krystian Rozek yn lletya gyda’r teulu ar y pryd yn eu cartref yng Nghae Hir, Y Fflint.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn y cartref a bu farw Monika Wasko yn y fan a’r lle. Fe fu farw ei mab dri diwrnod yn ddiweddarach. Treuliodd Rafael Wasko beth amser yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond fe ddaeth drwyddi.

Fe fydd Krystian Rozek yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon 2pm heddiw.