Dydd Iau, 3ydd Mawrth 2011 yw’r dyddiad y mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio cynnal y refferendwm ar bwerau pellach i’r Cynulliad.

Byddai’r dyddiad hwnnw fis cyfan cyn dyddiad arfaethedig etholiadau Llywodraeth y Cynulliad, ar 5 Mai 2011.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones eu bod nhw wedi rhoi gwybod i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan mae dyna’r dyddiad a ffefrir ganddynt.

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol eisioes wedi dweud ei bod hi eisiau cynnal y refferendwm cyn diwedd chwarter cyntaf 2011 a gofynnodd hi i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnig dyddiad addas.

Dywedodd Carwyn Jones a Ieuan Wyn Jones eu bod nhw hefyd wedi cwrdd ag Arweinwyr y Gwrthbleidiau yn y Cynulliad, er mwyn gofyn am eu barn.

Ymateb Ysgrifennydd Cymru

Dywedodd Cheryl Gillan ei bod hi wedi derbyn cais Llywodraeth y Cynulliad a dywedodd y byddai’n gwneud “popeth bosib” er mwyn ceisio sicrhau mai dyna ddyddiad y refferendwm.

Ychwanegodd y byddai’r gosod gorchymyn y refferendwm gerbron y Senedd fis nesaf.

“Yn y cyfamser fe fydd Swyddfa Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad er mwyn sicrhau’r ymrwymiad i gynnal y refferendwm erbyn diwedd chwarter cyntaf 2011.”

Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, ei bod hi’n croesawu’r newyddion.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi gweithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad yn digwydd ar 3 Mawrth 2011,” meddai.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn gweithredu ar ein hymrwymiad 100 mlynedd i ddatganoli pŵer go iawn o San Steffan i bobol Cymru.

“Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio’n adeiladol gydag aelodau blaengar o bob plaid er mwyn sicrhau pleidlais ‘Ie’ fydd yn sicrhau bod deddfau sy’n effeithio ar Gymru yn unig yn cael eu gwneud yng Nghymru.”