Mae chwaraewr Caerdydd, Jason Koumas, yn dweud mai dyma’r garfan orau y mae wedi bod yn rhan ohoni erioed.
Wrth baratoi i wynebu Leicester City yng Nghaerlŷr heno, roedd y chwaraewr canol cae yn hyderus y gall Caerdydd orffen yn nau safle ucha’r Bencampwriaeth – os na fydd anafiadau’n eu rhwystro.
Mae hynny’n sicr yn rhwystr yn y gêm heno gyda’r ddau flaenwr, Michael Chopra a Jay Bothroyd eisoes allan a’r capten, Craig Bellamy, yn amheus.
Edrych ymlaen
Ond mae Koumas yn edrych ymlaen ar ôl chwarae mwy na thri chwarter y gêm yn erbyn Hull ddydd Sadwrn – ei gêm gynta’ ers wyth mis.
Roedd yn hapus gyda safon ei chwarae a’i ffitrwydd ac mae’n dweud fod gan Gaerdydd bellach yr un math o ddyfnder ag oedd gan West Brom pan enillodd ddyrchafiad gyda nhw yn y gorffennol.
“Mae gynnon ni sgwad mawr erbyn hyn,” meddai. “Dyma’r garfan fwya’ a chryfa’ yr ydw i wedi bod ynddi.”