Parhau yn y fantol y mae gobeithion Morgannwg o gyrraedd Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd ar ôl i law atal pob chwarae yng Nghaerdydd.

Mae’n golygu fod y sir Gymreig yn parhau’n sownd ar 120-6 yn erbyn Swydd Derby a heb ddim pwyntiau bonws hyd yn hyn.

Doedd yna fawr o chwarae chwaith yng ngêm eu prif gystadleuwyr, Worcestershire. Fe ychwanegodd Sussex – sydd eisoes wedi’u dyrchafu – ychydig o rediadau i gyrraedd 225 am 7 yn erbyn y tîm o Gaerwrangon.

Roedd yna fwy o lwyddiant i’r tîm sydd yn bedwerydd wrth i Leicestershire – Swydd Caerlŷr – gyrraedd 159 am 2 wrth ateb 250 Swydd Northants. Ond roedden nhw 21 pwynt y tu ôl i Forgannwg ar ddechrau’r gemau diweddara’.

Fe allai’r ddau ddiwrnod ola’ fod yn gyffrous iawn wrth i’r siroedd chwilio am ganlyniadau ac fe allai pwyntiau bonws fod yn allweddol.

Llun: Dim chwarae heddiw yn Stadiwm Swalec